Amos 1

1Neges Amos, oedd yn un o ffermwyr defaid Tecoa.
1:1 Tecoa Pentref ym mryniau Jwda, tua chwe milltir i'r de o Bethlehem.

Ddwy flynedd cyn y daeargryn
1:1 Ddwy flynedd cyn y daeargryn Daeargryn ddigwyddodd yn 760 CC mae'n debyg. Byddai'r daeargryn yn cael ei ystyried yn arwydd fod barn Duw ar ei ffordd
cafodd Amos weledigaethau gan Dduw am Israel. Ar y pryd, roedd Wseia yn frenin ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas yn frenin ar Israel.
1:1 Wseia … Jeroboam Wseia, brenin Jwda 781–740 CC Jeroboam II, brenin Israel 783–743 CC
d

2Dyma ddwedodd Amos:

“Mae'r Arglwydd yn rhuo o Seion,
a'i lais yn taranu o Jerwsalem, e
nes bod porfa'r anifeiliaid yn gwywo,
a glaswellt mynydd Carmel yn sychu.”

Barn Duw ar y gwledydd o gwmpas Israel
1:2 Mae proffwydi eraill yn rhoi negeseuon tebyg am y gwledydd o gwmpas Israel – gw. Jeremeia 46-51; Eseia 13-23; Eseciel 25-32. Mae'n ein hatgoffa mai Duw ydy'r unig wir Dduw, a'i fod yn teyrnasu dros y gwledydd i gyd.

Syria g

3Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Mae Damascus
1:3 Damascus Prifddinas Syria.
wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.
Maen nhw wedi bod yn greulon at bobl Gilead,
a'u rhwygo gyda sled a dannedd haearn iddi.
4Felly bydda i'n llosgi'r palas gododd y brenin Hasael
1:4 Hasael brenin Syria o 842 i 805 CC gw. 1 Brenhinoedd 19:15
,
a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.
1:4 Ben-hadad Enw neu deitl ar nifer o frenhinoedd Damascus (1 Brenhinoedd 15:18, 20; 2 Brenhinoedd 13:24). Gall fod yn cyfeirio at fab Hasael, wnaeth ei olynu fel brenin (2 Brenhinoedd 13:3,24) neu at frenin wnaeth ei ragflaenu (gw. 1 Brenhinoedd 20). Ystyr yr enw ydy "mab Hadad". Hadad oedd Duw'r storm.

5Bydda i'n dryllio barrau giatiau Damascus,
yn cael gwared â'r un sy'n llywodraethu ar Ddyffryn Afen,
a'r un sy'n teyrnasu yn Beth-eden.
Bydd pobl Syria yn cael eu cymryd yn gaeth i ardal Cir.” k

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.

Philistia l

6Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Mae Gasa
1:6 Gasa Un o brif drefi y Philistiaid.
wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.
Maen nhw wedi cymryd pentrefi cyfan yn gaeth,
a'u gwerthu nhw i wlad Edom,
7Felly bydda i'n llosgi waliau Gasa,
a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol.
8Bydda i'n cael gwared â'r un sy'n llywodraethu yn ninas Ashdod
a'r un sy'n teyrnasu yn Ashcelon.
Bydda i'n ymosod ar ddinas Ecron,
1:8 Ashdod … Ashcelon … Ecron Trefi y Philistiaid.

nes bydd neb o'r Philistiaid ar ôl yn fyw!”

—fy Meistr, yr Arglwydd, sy'n dweud hyn.

Tyrus o

9Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Mae Tyrus wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.
Maen nhw wedi torri'r cytundeb gyda'i brodyr
drwy gymryd pentrefi cyfan yn gaeth,
a'u gwerthu nhw i wlad Edom,
10Felly bydda i'n llosgi waliau Tyrus,
a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol.”

Edom p

11Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Mae Edom wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.
Maen nhw wedi ymosod ar eu brodyr
1:11 eu brodyr Roedd pobl Israel yn ddisgynyddion i Jacob, a phobl Edom yn ddisgynyddion i Esau, brawd Jacob.
gyda'r cleddyf
a dangos dim trugaredd atyn nhw.
Am iddyn nhw ddal ati i ymosod yn wyllt
heb stopio'r trais o gwbl,
12dw i'n mynd i anfon tân i losgi Teman,
a dinistrio caerau amddiffynnol Bosra.”
1:12 Teman a Bosra sef Edom; roedd Teman yn dref bwysig yng ngogledd Edom (wedi ei henwi ar ôl ŵyr i Esau – gw. Genesis 36:10-11). Bosra oedd prifddinas gogledd Edom, tua 30 milltir i'r de-ddwyrain o'r Môr Marw.

Ammon s

13Dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Mae pobl Ammon wedi pechu dro ar ôl tro,
felly dw i'n mynd i'w cosbi nhw.
Maen nhw wedi rhwygo a lladd gwragedd beichiog Gilead
er mwyn ennill mwy o dir iddyn nhw eu hunain.
14Felly bydda i'n llosgi waliau Rabba
1:14 Rabba Prifddinas Ammon.
,
a bydd y tân yn dinistrio ei chaerau amddiffynnol.
Yng nghanol y bloeddio ar ddydd y frwydr,
pan fydd yr ymladd yn ffyrnig fel storm,
15bydd eu brenin a'i holl swyddogion
yn cael eu cymryd yn gaeth gyda'i gilydd.”

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
Copyright information for CYM